ER COF MARGARET ROSE REES

Roedd Mam wrth ei bodd â'r dŵr, a phan oedd hi'n ifanc, byddai hi'n treulio llawer o oriau hapus ym Maddonau Brynaman. Hi fyddai'r cyntaf i mewn a'r olaf allan a byddai'n dod allan â gwefusau glas a chrynu ym mhobman, ond roedd hi wrth ei bodd.  

Byddai Mam yn mynd â ni i'r 'Baths' bob haf lle byddai hi'n ein dysgu i nofio ac yn ein gwylio ni'n neidio/plymio oddi ar y bwrdd uchel. Pan oedd gennym ni blant, fe wnaethon ni barhau â'r traddodiad hwn o dreulio ein hafau ym Maddonau Brynaman. 

Arweiniodd ei hangerdd dros sicrhau bod pobl yn profi manteision nofio ati i drefnu minibws, bob nos Wener, i fynd â phlant a rhieni o Frynaman i bwll nofio Castell-nedd lle dysgodd lawer ohonyn nhw i nofio.

Byddai'n wych pe bai ei gor-wyrion yn gallu parhau â'r traddodiad hwn a theimlo llawenydd neidio i Faddonau Brynaman. Dymunwn bob llwyddiant i chi yn y fenter hon.

Rosemary, Susan a Dafydd.