Cyllid Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post ar gyfer Lido Brynaman

Rydym yn falch o allu cyhoeddi bod Lido Brynaman wedi derbyn £1760 gan Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post, elusen sy'n rhoi grantiau a ariennir yn gyfan gwbl gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl.

Glanhau Cymunedol yn y Lido

Bydd y cyllid hwn yn ein helpu gyda'r costau rhedeg sylfaenol hollbwysig hynny. Yn talu am yswiriant, gweinyddiaeth a'r arian hanfodol i redeg ein pwyllgor a'i weithgareddau cymunedol dros y flwyddyn nesaf. Bydd yn ein galluogi i gynllunio gan wybod y gallwn gynnal prosiect diogel yn ystod cam cyntaf adnewyddu'r lido. Hoffem ddiolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl am eu cymorth.