Ar ddechrau'r flwyddyn roedden ni'n rhagweld mai dyma fyddai degawd y Lido ac mae datblygiadau diweddar yn dangos ein bod ni'n gywir.
Clywsom ychydig dros wythnos yn ôl fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno mewn egwyddor i drosglwyddo rheolaeth y Lido i'n pwyllgor o dan gytundeb prydles. Mae eu hadran gyfreithiol wrthi'n llunio'r manylion ar hyn o bryd.
Ar ôl cryn dipyn o flynyddoedd o gynllunio, ymchwilio a thrafod rydym wrth ein bodd gyda'r newyddion hyn.
Nawr mae'r gwaith go iawn yn dechrau gan fod angen i ni wneud y paratoadau a chodi'r arian i wireddu ein breuddwyd i wneud Lido Brynaman yn lle arbennig yng nghanol y gymuned eto. Diolch yn fawr i'r holl bobl sydd wedi ein cefnogi hyd yn hyn.
Bydd gwybodaeth am ein hymgyrch codi arian, sut allwch chi helpu a sut allwch chi gyfrannu yn cael ei bostio yma ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn fuan. Yn y cyfamser, os ydych chi eisiau cysylltu, anfonwch e-bost at judith.hughes@live.com.
Yn anffodus, mae ein newyddion da yn cael ei gysgodi gan y difrod ofnadwy a achoswyd i gartrefi pobl yng Nghymru, yn enwedig ym Mhontypridd gan gynnwys eu lido gwych. Mae ein calonnau'n mynd allan atynt.